Adran Gynnal
Athroniaeth yr Adran Gynnal
Yn unol â’r Cod Ymarfer, mae pob disgybl ym Mhenweddig yn cael cyfle cyfartal i ddatblygu’n unol â’i gallu ac mae gan yr Adran drefn effeithiol o adnabod ac asesu anghenion y disgybl yn ogystal â hybu ei gynnydd addysgol.
Mae’r awyrgylch o fewn yr Adran Gynnal yn un gyfeillgar a chroesawus ac mae hyn yn ei dro yn meithrin agwedd bositif yn y disgyblion tuag at waith academaidd a sgiliau cymdeithasol.
Rydym fel adran yn pwysleisio fod ‘ein drws’ wastad ar agor i unrhyw ddisgybl neu riant sydd yn teimlo eu bod eisiau trafod unrhyw fater yn ymwneud â datblygiad y disgybl a byddem yn annog rhieni i gymryd rôl allweddol yn y broses o addysgu eu plant sydd ag angen cynhaliaeth.
Nod yr adran gynnal yw cyfrannu tuag at gyflwyno’r cwricwlwm yn effeithiol yn Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, gan alluogi pob un o’r disgyblion i gymryd rhan yn holl agweddau’r cwricwlwm a chyflawni eu potensial yn llawn. Yn ogystal â gweithio’n agos gyda’r teuluoedd mae yna hefyd weithio clos o fewn yr ysgol gydag adrannau eraill â’r tîm rheoli a chydag ystod o asiantaethau allanol.
Amcanion yr Adran
- I bob disgybl gael yr un cyfle i gyfranogi o gwricwlwm eang, cytbwys a gwahaniaethol beth bynnag fo’i anghenion addysgol;
- Sicrhau fod holl athrawon yr ysgol yn ymwybodol o’r disgyblion a natur eu hanawsterau/ sefyllfaoedd;
- Rhoi cyfle cyfartal i bob unigolyn ddatblygu yn unol â’i allu;
- Anelu i sicrhau bod disgyblion anghenion arbennig yn cael eu dysgu ar y cyd gyda’u cyfoedion (gyda chynhaliaeth);
- I sicrhau trefn effeithiol ac adnabod ac asesu anghenion a hybu cynnydd disgyblion ag anghenion ychwanegol;
- I annog rhieni i gymryd rôl allweddol yn y broses o addysgu'r unigolion;
- I gydweithio a chysylltu gydag asiantaethau statudol i ddiwallu anghenion y disgyblion;
- Cydweithio gyda mentoriaid sydd yn ymweld ag unigolion o fewn yr adran er mwyn hybu cynhaliaeth y disgyblion;
- Cynnig gofod i ddisgyblion unigol sydd yn profi anawsterau yn gymdeithasol/emosiynol o fewn addysg prif lif;
- Datblygiadau ysgol gyfan a fydd yn galluogi’r holl blant i gael mynediad llawn i gwricwlwm eang, cytbwys, perthnasol ac addas drwy hyrwyddo dysgu disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol gyda chefnogaeth gweithrediad y cwricwlwm;
- Creu amgylchfyd sy’n cwrdd â gofynion anghenion dysgu ychwanegol pob disgybl;
- Sicrhau bod anghenion dysgu ychwanegol disgyblion yn cael eu dynodi a’u hasesu a bod darpariaeth addas ar eu cyfer;
- Egluro disgwyliadau'r holl bartneriaid yn y broses;
- Dynodi rôl a chyfrifoldeb y staff wrth iddynt ddarparu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol disgyblion;
- Galluogi’r disgyblion i gyd i gael mynediad llawn i holl elfennau cwricwlwm yn yr ysgol;
- Addysg gyflawn ar gyfer pob disgybl gan roi pwyslais arbennig ar ddeunydd yr iaith Gymraeg ac ymwybyddiaeth o Gymreictod;
- Helpu pob disgybl i ddatblygu’n aelod cyfrifol ac aeddfed o gymdeithas ac i ymarfer hunan ddisgyblaeth mewn gwaith a chwarae;
- Helpu disgyblion i ddysgu parch at werthoedd moesol a chrefyddol, a bod yn oddefgar tuag at eraill a darparu cyfleoedd i hybu datblygiad ysbrydol disgyblion;
- Helpu pob disgybl i werthfawrogi a chyfranogi a thraddodiadau a diwylliant ei ardal a’i wlad, ac i fwynhau a deall traddodiadau diwylliant eraill;
- Helpu pob disgybl i ddatblygu cymwyseddau ieithyddol( yn y Gymraeg a’r Saesneg ac ieithoedd eraill), rhifyddol, gwyddonol, corfforol a rhesymegol;
- Helpu pob disgybl i gyrraedd eu safon uchaf o gyrhaeddiad ac i fedru;
- Perthnasu a chymhwyso eu dysg a’u doniau ar gyfer gwaith, gyrfa a hamdden mewn cymdeithas sy’n newid yn gyflym;
- Helpu pob disgybl i ddatblygu eu hymwybyddiaeth o’r amgylchedd ac i’w barchu o fewn yr ysgol, yn eu bro a thu hwnt.