Cymraeg Cymraeg English English

Digwyddiadau

Wythnos Profiad Gwaith Bl. 10

24/06/2013

Yr. 10 Work Experience Week

mwy >>

Blwyddyn 6 yn mynychu Cwrs Pontio ym Mhenweddig: 24ain - 25ain Mehefin

24/06/2013

Year 6 Transition Course in Penweddig: 24th - 25th June

mwy >>

Cyfarfod Cyngor Ysgol

25/06/2013

School Council Meeting

mwy >>

Newyddion

Page 1 of 43  > >>

Taith i Awstralia

Jun 19, 2013

 

 

Gŵyl Tsieineaidd Cwch y Ddraig

Jun 17, 2013

 

 

Llythyr oddi wrth Elin Jones AC

Jun 14, 2013

 

 

Llywodraethwyr yr ysgol

Disgyblion Penweddig yn Ennill Cystadleuaeth

Nov 10, 2010 - Posted by: PenweddigAdmin

Mae tri o ddisgyblion Bl 13 Penweddig wedi ennill cystadleuaeth ffilm yng Ngogledd Cymru.

 

Mae tri gwneuthurwr ffilm ifanc o Aberystwyth wedi ennill y wobr gyntaf yng Ngŵyl Ffilm PICS a gynhaliwyd mewn digwyddiad carped coch yn y Galeri, Caernarfon ar y 7fed o Dachwedd.  Gŵyl Ffilm cenedlaethol yw PICS ar gyfer plant a phobl ifanc a her y gystadleuaeth oedd creu ffilm 3
munud o hyd naill ai yn y Gymraeg neu heb iaith. Gwion James, Jacob Prytherch a Glyn Dodd aeth ati i wynebu’r her a chreu ffilm o’r enw ‘Y Linell’. Gyda chymorth Elin Vaughan Crowley, Gweithiwr Artistig Cymunedol Cyrraedd y Nôd Cwmni Theatr Arad Goch, aethpwyd ati i drafod syniadau a chreu strwythur y ffilm. Daethpwyd i’r canlyniad taw cysyniad y ffilm fyddai taith ar hyd llinell, mynd o A i B yn y modd mwya’ egnïol a diddorol posib gan ddefnyddio arbenigedd Gwion o parkour a rhyddredeg i arddangos hyn.
Er bod Gwion eisoes wedi creu ffilmiau bychan o’u gampau rhyddredeg, gwneud hynny ar ei gamera bach personol ac i arddangos triciau yn fwy na dim y gwnaeth, heb elfen o stori na chynllunio manwl.
Gyda Jac a Glyn yn ymuno yn y prosiect gyffrous a hwythau wedi cael profiad o greu ffilmiau byrion ar gyrsiau Arad Goch roedd hi’n posibl camu i lefel uchel a saethu ar ddau gamera. Cofleidiodd y bechgyn y cyfle i ddefnyddio’r offer ffilmio a golygu diweddara sydd gan Arad Goch. Roedd llai na mis ganddynt i gwblhau’r cyfan felly aethant ati pob cyfle posib gyda diwydrwydd a phenderfyniad, i saethu a golygu’r ffilm mewn pryd.
Does ryfedd bod y panel o feirniaid proffesiynol wedi dewis ‘Y Linell’ ar gyfer y rhestr fer, gyda gwaith camera trawiadol, defnydd gwych o gân Genod Droog ‘Breuddwyd Oer’ a tro diddorol ar y diwedd mae’n ffilm sy’n gwneud y mwyaf o bob elfen. Wrth wylio Gwion yn rhedeg a neidio dros risiau, waliau a phobl yr holl ffordd o gopa Craig Glais i’r Harbwr mae Aberystwyth yn gefnlen arbennig gyda’r prom, y castell ac ambell i wal liwgar yn ychwanegu at yr elfen weledol.
Dywedodd Elin Vaughan Crowley, Gweithiwr Artistig Cymunedol Cyrraedd y Nôd –‘Dwi’n hynod o falch o lwyddiant y bechgyn. Mae ‘Y Linell’ yn ffilm gellwch wylio dro ar ôl tro ac yn bendant yn arf marchnata gwych ar gyfer Aberystwyth. Os oes yna bobl ifanc eraill sydd eisiau creu ffilm yna mae croeso iddynt gysylltu â mi yn Arad Goch’.

 

Ffilmio 'Y Linell'

 

I wylio ‘Y Linell’ pwyswch yma.

 

GWYBODAETH PELLACH
Mae Gwyl Ffilm PICS yn ei phedwaredd blwyddyn.
Elin Vaughan Crowley yw Gweithiwr Artistig Cymunedol Cyrraedd y Nôd yn arbenigo mewn ffilm a ffotograffiaeth. Am fwy o wybodaeth am y prosiectau sydd ar y gweill pwyswch yma.

Print | Return