Cymraeg Cymraeg English English

Digwyddiadau

Wythnos hanner-tymor yn dechrau

04/06/2012

Half-term week begins

mwy >>

Ymweliadau â'r ysgolion cynradd yn dechrau

11/06/2012

Primary school visits begin

mwy >>

Bl. 12 yn dychwelyd

13/06/2012

Yr. 12 returns

mwy >>

Newyddion

Page 1 of 17  > >>

Eisteddfod Sir yr Urdd

May 16, 2012

Aelodau'r ysgol yn cystadlu...

Llongyfarchiadau

May 14, 2012

Llongyfarchiadau i Ifan LLywelyn 7A...

Eiddo Coll

May 1, 2012

Eiddo coll...

Y Ganolfan Iaith

Athrawes – Mrs Dilys Lloyd

 

Rhif ffôn (01970) 625440

 

Mae’r Ganolfan Iaith wedi ei lleoli ar lawr cyntaf yr ysgol ac yn darparu cyrsiau i wella Cymraeg rhai o ddisgyblion Blwyddyn 6 sydd am drosglwyddo i Benweddig i Flwyddyn 7.  Penaethiaid eu hysgolion cynradd fydd fel arfer yn cyfeirio disgyblion i’r Ganolfan Iaith.
Digwydd y cyrsiau Gloywi Iaith ar Ddydd Iau a Dydd Gwener yn ystod Tymor y Gwanwyn a Thymor yr Haf bob blwyddyn.  Mae pob cwrs yn para dros chwe wythnos.  Mae’n baratoad gwerthfawr i’r disgyblion i ddatblygu eu hyder a’u defnydd o’r Gymraeg drwy ymarfer llafaredd, darllen ac ysgrifennu mewn dosbarth o 10 i 14 cyn trosglwyddo i Benweddig.  Bydd y gwaith dosbarth yn y Ganolfan Iaith yn cynnwys gwaith ar Gymru, ar fywyd ysgol ac yr ardal leol, yn ogystal ag ymarferion iaith.  Bydd gwaith cartref darllen ac ysgrifennu (ddylai bara tua hanner awr) yn cael ei osod bob nos Iau a phob nos Wener yn ystod y cwrs.  Bydd hyn yn ymarfer defnyddiol ar gyfer ymdopi â gwaith cartref ym Mhenweddig.  Un prynhawn yn ystod y cwrs, byddwn yn mynd ar daith gerdded leol, gan ddysgu ychydig am hanes a datblygiad y dref.
Yn ogystal â rhoi profiad iaith ychwanegol, mae’r cwrs yn cynnig cyfle i’r disgyblion gwrdd a chymdeithasu â’u cyfoedion ym Mlwyddyn 6.  Cânt gyfle i gael ychydig o ragflas ar drefn Penweddig.  Wrth deithio i’r ysgol uwchradd, cael cinio yn y ffreutur, ymweld â’r Ganolfan Adnoddau a chael defnyddio ystafell gyfrifiaduron, bydd modd i’r disgyblion drosglwyddo’n hyderus i’r ysgol uwchradd ym Mlwyddyn 7.