Llwyddiannau ein disgyblion

Rydym yn falch iawn o lwyddiannau ein disgyblion ym mhob maes.

Maent yn ennill clodydd ar draws meysydd chwaraeon, cerddorol, diwylliannol, llenyddol, eisteddfodol a dyngarol.

Rydym yn falch iawn o lwyddiant academaidd ein disgyblion ar bob lefel o arholiad. Mae’r canlyniadau ardderchog hyn i gyd yn dystiolaeth o waith caled disgyblion ac athrawon a chefnogaeth gref y rhieni.

Fel y tystia arolwg 2017, mae canran y disgyblion sydd yn ennill 5 gradd A* - A mewn TGAU neu gymhwyster cyfwerth yn sylweddol uwch na chyfartaledd ysgolion tebyg yn 2016”. O ran Safon Uwch mae perfformiad yr ysgol yn gyson uchel ac yn debyg i gyfartaledd ysgolion tebyg eraill”.

Agwedd sy’n greiddiol i’r llwyddiannau hyn yw’r pwyslais mae’r ysgol yn ei roi ar ansawdd y gofal a’r consyrn real am les a datblygiad pob plentyn. Mae’r ysgol yn falch o’r rhinwedd hon ac yn ddyledus dros ben i’r cydweithrediad a’r gefnogaeth sydd rhwng yr ysgol a’r rhieni.

Digwyddiadau