Croeso gan y Pennaeth
Croeso cynnes iawn i chi i wefan Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig. Mae’r ysgol yn gymuned Gymreig sydd yn sicrhau bod ei disgyblion yn datblygu yn ddinasyddion cyfrifol a gweithredol sy’n deall a pharchu eraill, beth bynnag eu cefndir. Magwn ymwybyddiaeth ddisgyblion o ddiwylliant, iaith a hanes eu hardal a’u gwlad. Ceisiwn ymestyn eu gorwelion i weld cyfleoedd byd-eang a magwn uchelgais ym mhob aelod o gymuned yr ysgol - disgwylir iddynt anelu’n uchel a gweithio’n gyson tuag at y nod er mwyn datblygu a llwyddo.
Y Gymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol a chyfrwng y rhan fwyaf o’r gwersi. Mae cynnal Cymreictod o fewn yr ysgol, y gymuned leol a thu hwnt yn rhan ganolog o waith yr ysgol. Gweithiwn i gefnogi pob disgybl wrth iddynt anelu at y safonau uchaf o gyrhaeddiad academaidd, creadigol, diwylliannol a galwedigaethol. Cefnogwn ddatblygiad moesol, ysbrydol a chorfforol ein disgyblion yn yr ysgol ac anogwn ddisgyblion i gyfrannu at eu cymunedau tu allan i’r ysgol. Caiff pob disgybl gyfleoedd ardderchog i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer dyfodol llwyddiannus. Mae pob disgybl yn unigolyn gyda dyheadau a breuddwydion gwahanol - ein rôl ni yw eu cynorthwyo i wireddu’r rhain.
Ar y sylfeini cadarn hyn, paratoa’r ysgol ei phobl ifanc ar gyfer cymryd eu lle yn eu cymunedau boed y rheini yma yng Ngogledd Ceredigion neu ym mhendraw’r byd.
Pennaeth