Y Ganolfan Iaith

Gall fod cyfle i blant sy'n bwriadu trosglwyddo i Benweddig fynychu cwrs Pontio Ieithyddol yn y Ganolfan Iaith sydd wedi ei lleoli ar safle'r ysgol. Fel arfer, cynhelir y cwrs ym Mlwyddyn 6 ar ôl hanner tymor Chwefror ac yn ystod tymor yr haf. Mae'r cwrs hwn ar gyfer plant sydd angen cymorth ychwanegol gyda'r iaith Gymraeg cyn iddynt drosglwyddo o'r ysgol gynradd i Benweddig. Weithiau mae'n rhaid dethol pwy sy'n mynychu'r cwrs yn ôl angen ieithyddol y plant am mai dim ond lle i nifer cyfyngedig sydd yn y Ganolfan.

Mae dau beth yn angenrheidiol er mwyn i ddisgybl o unrhyw gefndir lwyddo ym Mhenweddig, sef awydd ac ymroddiad i ddysgu Cymraeg ac i wneud defnydd llawn ohoni.

Daw dros hanner disgyblion Penweddig o gartrefi lle siaredir dim, neu ond ychydig o Gymraeg. Dengys canlyniadau arholiad disgyblion Penweddig nad yw hyn yn rhwystr i gyflawniad llawn y disgyblion (gweler y llyfryn amgaeëdig ‘Canlyniadau Arholiad 2019’).

Digwyddiadau