Trosglwyddo o’r Cynradd

“Mae’r ysgol yn cydweithio’n agos â’i hysgolion cynradd partner er mwyn darparu amrywiaeth o weithgareddau pontio sy’n sicrhau trosglwyddo diffwdan o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7” (Adroddiad Arolwg 2017)

Mae symud o'r ysgol gynradd i'r uwchradd yn gam pwysig ac yn gam mawr i blentyn ei gymryd. Mae'r ysgol yn ymwybodol o hyn ac wedi datblygu rhaglen i geisio sicrhau bod y trosglwyddo yn broses ddibryder i bob disgybl sydd yn dod atom. Trefnir noson agored ar gyfer pob teulu sy'n ystyried anfon plentyn i Benweddig. Mae croeso hefyd i deuluoedd unigol gysylltu â ni i drafod unrhyw agwedd o fywyd Penweddig yr hoffent gael mwy o wybodaeth amdano neu i ymweld â’r ysgol. Yn ystod tymor yr haf bydd yr Arweinydd Cynnydd sy’n gyfrifol am bontio o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7 ynghyd â’r Pennaeth Cynorthwyol sydd â chyfrifoldeb dros Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ymweld â phob plentyn yn ei ysgol gynradd. Hefyd trefnir cwrs dau ddiwrnod yn yr ysgol er mwyn i'r plant gyfarwyddo gyda threfn y bysiau, dod i adnabod ei gilydd, y staff a’r ysgol a chael cyfle i holi unrhyw gwestiynau cyn dechrau ym mis Medi.

Ar y bore cyntaf ym mis Medi mae yna wahoddiad i rieni blwyddyn 7 i ddod i'r addoliad boreol am 9 o'r gloch er mwyn rhannu'r profiad gyda'u plant.

Yn ystod y tymor cyntaf mae rhieni yn derbyn adroddiad cynnydd ac i’w ddilyn noson rieni i drafod cynnydd y disgybl yn y pynciau.

Credwn fod y drefn o drosglwyddo o’r cynradd i’r uwchradd, a sicrhau bod bob plentyn yn setlo’n gyflym yn y flwyddyn gyntaf, yn un gynhwysfawr a'i bod yn gweithio'n effeithiol.

Yn ychwanegol at hyn mae'r ysgol yn annog pob rhiant i gysylltu â ni ynglŷn ag unrhyw agwedd o fywyd yr ysgol yn ôl yr angen, ac i beidio ag oedi rhag gwneud hynny. Rydym am gydweithio mewn partneriaeth glos gyda theuluoedd. 

Digwyddiadau