Ethos a Gwerthoedd Yr Ysgol
Cyfeirir at y gwerthoedd creiddiol yn y llawlyfr lliw a ddosbarthwyd gyda’r wybodaeth hon. Rhoddir pwyslais arbennig ar adnabyddiaeth dda o ddisgyblion fel unigolion. Arddelir y gwerthoedd o barch, gofal a chonsyrn a rhoddir pwyslais ar gynnig y gynhaliaeth orau bosib i bob disgybl. Ar y seiliau hyn yr adeiladir holl waith yr ysgol. Cynhelir safonau academaidd uchel a darperir rhaglen eang a chyfoethog o weithgareddau allgyrsiol. Darparu addysg gyflawn yw nod yr ysgol gan roi pwyslais arbennig ar ddefnydd o’r iaith Gymraeg ac ymwybyddiaeth o Gymreictod.