Defnyddio’r Gymraeg

Crëwyd Penweddig er mwyn cyflwyno addysg Gymreig a chyfrwng Cymraeg i blant gogledd Sir Ceredigion.

Un o brif nodau’r ysgol yw cynnal cymuned Gymreig. Ym Mhenweddig rhoddir statws uchel i’r iaith Gymraeg ac i ddiwylliant ein gwlad.

Ni wneir hynny mewn awyrgylch ynysig, mewnblyg, ond o fewn fframwaith ysgol gyfan ac ystod o weithgareddau sy’n ymestyn gorwelion y disgyblion ymhell tu hwnt i ffiniau’r ardal a ffiniau Cymru. Rhoddir lle amlwg i ddysgu iaith dramor ac i deithiau sy’n rhoi profiadau o wledydd eraill yn Ewrop a thu hwnt. Gwneir pob ymdrech i feithrin dealltwriaeth y disgyblion o ddiwylliannau a ffyrdd o fyw pobl o bob cenedl.

Daw dros hanner disgyblion yr ysgol o gartrefi lle siaredir dim, neu ond ychydig o Gymraeg. Oriau ysgol yw prif gyfle’r disgyblion hyn i ymarfer eu Cymraeg. Mae’r ysgol, felly, yn disgwyl i bob disgybl siarad Cymraeg yn holl weithgareddau’r ysgol ac yn erfyn ar rieni i roi pob anogaeth iddynt.

Yn gynyddol gwelir bod yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd yn fanteision economaidd yn eu hunain. Mae’r galw am wasanaethau a gweithwyr dwyieithog yn cynyddu’n ddramatig ac yn parhau i wneud hynny. Felly, mae cael caffael da ar y Gymraeg a sicrhau graddfa uchel o ddwyieithrwydd, neu hyd yn oed amlieithrwydd, yn gymwyseddau gwerthfawr a all hyrwyddo ansawdd bywyd unigolion.

Ar gyfer Medi 2019 mae polisi cyfrwng dysgu pynciau a sefyll arholiadau allanol fel a ganlyn :

  • Addysgir ac arholir Saesneg yn Saesneg
  • Addysgir Mathemateg a Gwyddoniaeth yn ddwyieithog ond fe fydd yr asesiadau/arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl dymuniad y plentyn a’i rieni. Anogir y plant sydd wedi astudio’r pynciau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mlwyddyn 6 i barhau i wneud hynny ym Mlwyddyn 7.

Dysgir ac arholir pob pwnc arall trwy gyfrwng y Gymraeg

Hwn yw’r polisi cyfrwng ar gyfer pob disgybl a fydd yn cychwyn ym Mhenweddig ym Medi 2020 a bydd hyn yn parhau trwy gydol gyrfa ysgol y disgyblion hynny.

Digwyddiadau