Yr Hafan a’r Encil

Hafan: Ystafell ganolog yn yr ysgol ble y cyfeirir disgybl er mwyn derbyn cynhaliaeth emosiynol ac ymarferol. Y bwriad yw cynnig cynhaliaeth i’r disgybl i ymdopi gydag agweddau o fywyd yr ysgol sy’n anodd iddo ef/iddi hi. Gall ddisgybl gyfeirio ei hunan at yr Hafan neu gael ei gyfeirio gan aelod o staff.

Encil: Cyfeirir disgybl at yr Encil pan nad yw’n cydymffurfio â rheolau’r ysgol ac i ynysu’n fewnol. Pan gyfyd achos o ynysu mewnol cysylltir â rhieni i roi gwybod iddynt a chedwir cofnod o hynny. Gall ddisgybl fod yn yr Encil hyd at fwyafswm o 3 diwrnod.

Er mwyn sicrhau cysondeb, dim ond aelodau’r Uwch Dîm Rheoli all gyfeirio disgybl i’r Encil.

Cynigir gwasanaeth cwnsela ar safle’r ysgol dau ddiwrnod yr wythnos. Mae modd i ddisgybl gyfeirio ei hunan neu gall wneud apwyntiad drwy gysylltu ag aelod o staff.

Digwyddiadau