Disgyblaeth a Disgwyliadau’r Ysgol
Gwerthoedd creiddiol yr ysgol yw:
- Parchu eich hunan ac eraill
- Parchu eiddo ac amgylchedd
- Parchu’r Ysgol
- Defnyddio’r Gymraeg hyd eithaf eich gallu
- Agwedd bositif at fywyd yr ysgol
Hawliau a Chyfrifoldebau:
Mae gan bob disgybl yr hawl i:
- Ddysgu hyd eithaf ei g/allu
- Ddysgu mewn amgylchedd glân a diogel
- Gael ei thrin â pharch
Cyfrifoldeb pob disgybl yw i:
- Ddysgu a chaniatáu eraill i ddysgu
- Fod yn brydlon bob amser
- Gyrraedd a gadael y dosbarth yn drefnus
- Godi pan ddaw aelod o staff i’r ystafell ddysgu
- Ddilyn cyfarwyddiadau athrawon yn y dosbarth ac ar y coridorau
- Gadw at ddyddiadau cau penodol
- Sicrhau bod gwaith a gollwyd yn cael ei gwblhau
- Sicrhau bod ffonau symudol a thechnoleg wedi eu diffodd drwy gydol y diwrnod ysgol ac o’r golwg yn y bag ysgol
- Ddefnyddio system gyfrifiadurol yr ysgol at ddibenion gwaith ysgol yn unig
- Rhoi’r sbwriel yn y bin
- Fwyta yn y ffreutur yn unig Gerdded ar y chwith
- Ymddwyn yn barchus ar hyd y coridorau
O ran iechyd a diogelwch dylid dilyn y canllawiau hyn:
- Cofrestru’n brydlon bore a phrynhawn
- Aros ar safle’r ysgol yn ystod oriau ysgol (Bl 7 – 11)
- Mynychu’r Ganolfan Hamdden adeg gwersi yn unig
- Dilyn y cyfarwyddiadau tân a threfniadaeth y bysiau
- Dim arfau, smygu, cyffuriau neu alcohol
- Dim gemwaith oni bai am un pâr o glustdlysau (‘sleepers’ neu ‘studs’ yn y clustiau yn unig)
- Cerdded ar y chwith ar y coridorau a’r grisiau
- Dim ymgasglu ar y llawr uchaf amser egwyl a chinio
- Rhoi ysbwriel yn y bin a chadw’r ysgol yn lân
- Dim gwm cnoi ar y safle
Os bydd plentyn yn ymddwyn yn wael, mae gan athrawon yr hawl i drefnu cosb megis gwaith ychwanegol neu ei gadw i mewn yn ar atalfa. Os nad ydym yn fodlon ar agwedd disgybl, byddwn yn gwahodd ei rieni i'r ysgol i drafod y broblem. Mewn rhai achosion o gamymddwyn neu batrwm o gamymddwyn cedwir y disgybl i mewn atalfa ar ôl ysgol. Pan ddigwydd hyn, hysbysir y rhieni o leiaf pum niwrnod o flaen llaw. Mewn achosion mwy difrifol o gamymddwyn gellir gwahardd disgybl o'r ysgol. Defnyddir y sancsiynau uchod oddi mewn i fframwaith polisi ymddygiad yr ysgol. Mae copi o’ polisi ar wefan yr ysgol. Mae gan riant yr hawl i gy-sylltu â'r Corff Llywodraethol os anghytunir gyda gweithred ddisgyblaethol.
Camymddygiad difrifol
- Nid yw’r mathau o gamymddygiad isod yn dderbyniol ar unrhyw achlysur yn yr Ysgol.
- Dwyn
- Fandaliaeth
- Ymosodiad Corfforol
- Meddiant/ Defnydd/ Dosbarthu alcohol, cyffuriau neu arf peryglus
- Ymddygiad haerllug neu fygythiol tuag at aelod o staff
- Ymddygiad sydd yn gosod eraill mewn perygl
- Defnydd o’r offer cyfrifiadurol i ddifrodi gwaith eraill
- Ymyrryd/ cyfaddawdu ar reolaeth y system gyfrifiadurol
- Bwlian
- Cyber-fwlian gan gynnwys negeseuon testun a ffôn Cymryd neu ddosbarthu llun/fideo/recordiad o berson heb ganiatâd
Gall canlyniad y math yma o gamymddygiad fod yn naill ai waharddiad dros dro neu barhaol o’r ysgol.
Ni chaiff ddisgyblion Blynyddoedd 7 i 11 adael yr ysgol yn ystod y toriad cinio oni bai fod ganddynt apwyntiad penodol. Caiff disgyblion Blwyddyn 12 a 13 adael y safle adeg yr egwyl ginio a chyda chyd- drefniant gyda’r Pennaeth Cynnydd, ar adegau eraill ond rhaid i rieni dderbyn nad yw'r ysgol yn gyfrifol am y rhai sy'n gadael y safle yn ystod yr amser hwnnw.
Y mae cinio ar gyfer pawb yn y ffreutur a bydd gweithgareddau amrywiol yn digwydd yn ystod amser cinio. Y mae'r ysgol yn cadw'r hawl i rwystro unrhyw ddisgybl rhag mynd allan yn ystod amser cinio os nad yw ei ymddygiad yn foddhaol.
Rhaid i ddisgyblion sy'n mynd at y meddyg, optegydd, deintydd neu'r ysbyty ddangos cerdyn apwyntiad neu lythyr oddi wrth riant i'r athro dosbarth cyn mynd, a llenwi’r Llyfr Allan a gedwir yn y swyddfa cyn gadael yr ysgol ac wrth ddychwelyd.
Disgwylir i bob disgybl gymryd rhan mewn gwersi Chwaraeon ac Addysg Gorfforol. Rhaid wrth reswm meddygol da cyn yr esgusodir disgyblion o'r gwersi hyn. Y mae Addysg Gorfforol yn bwnc gorfodol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Bwlian
Mae hawl sylfaenol i holl aelodau'r ysgol gael eu parchu gan bawb ac i brofi bywyd hapus yn yr ysgol. Lluniwyd y polisi Gwrth-fwlian mewn ymgynghoriad llawn gyda’r rhieni a’r Cyngor Ysgol. Mae’r polisi’n manylu ar sut y mae'r ysgol yn ceisio diogelu'r hawl yma trwy ddatgan safiad yr ysgol yn erbyn bwlian yn glir ac yn gadarn. Rhoddir canllawiau i ddisgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr yr ysgol ar sut i weithredu os bydd bwlian yn digwydd neu bod amheuaeth bod bwlian yn digwydd. Digwydd bwlian ymhob ysgol. Mae Penweddig yn benderfynol o weithio mewn partneriaeth gyda'r teuluoedd ac asiantaethau allanol i leihau'r nifer o achosion o fwlian ac, mor bell ag y mae'n bosib, i'w ddileu o'r ysgol.
Mae bwlian yn hollol annerbyniol. Mae copi o’r polisi gwrth-fwlian ar wefan yr ysgol. Bydd yr Ysgol yn delio â phob achos o fwlian yn unigol, ac yn unol â Pholisi Wrth-fwlian yr Ysgol. Gall yr ymateb amrywio ar draws camau disgyblaeth 1 hyd at 6 o’r polisi ymddygiad yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Gall bwlian arwain at ddiarddeliad.