Croeso i'r Adran Hanes
Pennaeth yr Adran Hanes: Huw Roderick
Cyfnod Allweddol 3
Yn Ysgol Penweddig mae’r Adran Hanes yn ymdrechu i gyflwyno Hanes mewn ffordd ddiddorol, fywiog ac arwyddocaol, a fydd yn creu dinasyddion cyfrifol, gwybodus a’u paratoi ar gyfer bywyd yn y 21ain ganrif. Ein bwriad yw annog meddyliau agored, ymholgar a datblygu’r sgiliau hynny i ddatrys problemau perthnasol a fydd yn gwella eu cyfleoedd i sicrhau gwaith ystyrlon wedi iddyn nhw adael addysg amser llawn. Ein bwriad hefyd yw rhoi cyfle iddynt fwynhau astudio’r pwnc.
Byddant yn dysgu hyn drwy astudio ac ymholi am y prif nodweddion gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ar draws cyfnodau gwahanol yn hanes Cymru a Phrydain. Dyma rhai o’r testunau y byddwn ni’n dysgu amdanynt.
Blwyddyn 7 - 1066 hyd 1500
Blwyddyn 8 - 1500 hyd 1760
Blwyddyn 9 - 1760 hyd yr Ugeinfed Ganrif
Cyfnod Allweddol 4
Blwyddyn 10 & 11
Llwybr A
Modiwl amlinellol
Cymdeithas UDA
Hawliau Sifil
Modylau mewn dyfnder
Natsïaid yn dod i bŵer erbyn 1934
Bywyd yn yr Almaen Natsïaidd 1933-39
Yr Almaen adeg yr Ail Ryfel Byd
Creu gwladwriaeth apartheid a’i phrif nodweddion
Gwrthwynebiad a gormes: gwrthwynebu apartheid a’i phrif nodweddion
Diwedd apartheid
Asesiadau o dan reolaeth (25%)
Cyfnod Allweddol 5
AS Blwyddyn 12 (20%)
Uned 1
Gwleidyddiaeth, Pobl a Chynnydd : Cymru a Lloegr tua 1880-1980, gan gynnwys:
Maint y Newid mewn cymdeithas 1880-1951.
Y newid yn safle’r pleidiau gwleidyddol 1880-1951.
Effaith y rhyfel ar gymdeithas yng Nghymru a Lloegr 1914-1951.
Arwyddocâd y prif ddatblygiadau yng Nghymru 1918-1980.
Y newid yn rôl a statws menywod 1880-1980.
Uned 2
Yr Almaen : Democratiaeth ac Unbennaeth, tua 1918-1945.
Rhan 1 : Weimar a’i heriau gan gynnwys -
Y sialensiau oedd yn wynebu Gweriniaeth Weimar 1918-1923.
Maint y newid mewn polisi tramor ac economaidd 1924-1929.
Y newid yn hynt y Blaid Natsiaidd 1924-1933.
Argyfwng y weriniaeth Weimar 1929-1933.
Dehongliadau hanesyddol o faterion allweddol o’r cyfnod hwn.
A2 Blwyddyn 13
Uned 3 (20%)
Diwygio’r Senedd a Phrotest yng Nghymru a Lloegr 1780-1885
Diwygio’r Senedd 1780-1885 sy’n cynnwys -
Newidiadau yn Niwygio’r Senedd 1780-1830.
Achosion a chanlyniadau’r diwygio senedd 1830-1867.
Arwyddocâd diwygio’r senedd 1867-1885.
Protestiadau’r bobl 1780-1885 sy’n cynnwys -
Twf protestiadau’r bobl: 1780-1822.
Achosion a chanlyniadau protestiadau’r bobl.
Arwyddocâd protestiadau’r bobl yng nghanol y cyfnod Fictorianaidd 1849-1885.
Uned 4 (20%)
Yr Almaen Natsïaidd gan gynnwys -
Datblygiadau pellach yn rheolaeth yr Almaen o’r Natsïaid ar ôl 1933.
Effaith polisïau hiliol, cymdeithasol a chrefyddol 1933-1945.
Effeithiolrwydd y polisïau economaidd 1933-1945.
Y newid ym mholisi tramor y Natsïaid a’r Ail Ryfel Byd 1933-1945.
Uned 5 (20%)
Uned Gwaith Cwrs.
Bydd y disgyblion yn cael cyfle i ymchwilio’n annibynnol i ddehongliad hanesyddol o bwys a chynhyrchu traethawd 4,000 o eiriau ar destun i’w drafod gyda’r athro ar gychwyn blwyddyn 13. .
Llywodraeth a Gwleidyddiaeth.
Darperir cwrs Lefel A Llywodraeth a Gwleidyddiaeth hefyd o fewn yr Adran. Mae’r cwrs yn un cyfoes sydd yn newid yn gyson. Mae’r cwrs AS Blwyddyn 12 yn cynnwys dwy uned ar ‘Pobl a Gwleidyddiaeth yn y Deyrnas Unedig, a ‘Llywodraeth Cymru a Lloegr’. Bydd y cwrs A2 Blwyddyn 13 yn canolbwyntio ar America gyda’r disgyblion yn astudio dwy uned ar ‘Gwleidyddiaeth UDA’ a ‘Llywodraeth UDA’.